Crynwyr Gogledd Cymru

ENGLISH

Cyflwyno'r Crynwyr

Cynghorion
o Holiadau


Cyrddau Crynwyr
yng Ngogledd Cymru


In-house Noticeboard

Cysylltwch � ni

Dolenni:
Crynwyr ym Mhrydain (BYM)
Crynwyr Gogledd Orllewin Lloegr

Beth mae Crynwyr yn ei gredu?

Mae'r Crynwyr wedi tyfu o wreiddiau Cristonogol cryfion, ond mae profiad personol a gweithredu wedi bod yn fwy pwysig na dogma erioed. O'r herwydd nid oes gennym gredo, ac rydym yn agored i ystod eang o gred.

Mae rhai pwyntiau cyffredin sydd yn ein cydio yn gymuned addolgar:

  • Mae goleuni Duw ym mhawb.
  • Gall pob unigolyn gael perthynas uniongyrchol a phersonol a Duw - nid oes angen offeiriad na gweinidog yn gyfryngwr.
  • Caiff ein perthynas � Duw ei feithrin drwy ein haddoliad o aros distaw.
  • Natur Duw yw cariad.

Mae'r pwyntiau hyn yn ein harwain at ymdrechu dros:

  • gydraddoldeb dynoliaeth,
  • symlrwydd yn ein haddoliad a'n buchedd,
  • heddwch,
  • cyfiawnder cymdeithasol,
  • yr hawl i ryddid cydwybod,
  • y syniad o rannu cyfrifoldeb am fywyd ein cymunedau a chyfanrwydd y cread

Byddwn yn cyfeirio at y rhain weithiau fel tystiolaeth Grynwrol.